Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Gorffennaf 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Caiff y cwestiwn hwn ei ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adolygiad o ddatganoli a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU?
(5 munud)
(30 munud)
NDM7106 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno y dylid dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mehefin 2019.
(60 munud)
NDM7116 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr Ymchwiliad i Gynyrchiadau Ffilm a Theledu Mawr yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2019.
(60 munud)
NDM7115 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Gosodwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Chwefror 2019.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Mehefin 2019.
(60 munud)
NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.
2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad.
3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le;
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.
2. Yn credu nad oes awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:
a) deddfu cynigion adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;
b) cyflymu'r broses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Senedd Sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.
2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.
3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Senedd sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod heriau sylweddol o ran capasiti Aelodau'r Cynulliad i ymgymryd â gwaith craffu boddhaol ar ddeddfwriaeth a Llywodraeth Cymru.
2. Yn galw am i ymchwiliad pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad ac a oes cefnogaeth gyhoeddus i symudiad o'r fath.
3. Yn galw am unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad i gael ei ariannu drwy arbedion cyffredinol i drethdalwyr, yn deillio o ganlyniad i leihad yn nifer gyffredinol y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru.
4. Yn galw ar i unrhyw Aelodau Cynulliad ychwanegol gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
(30 munud)
NDM7117 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Gofalu am ein gofalwyr: Sicrhau'r gydnabyddiaeth, y seibiant a'r cymorth y mae ein gofalwyr yn eu haeddu.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2019